Neidio i'r prif gynnwy

Ein hapêl

Bydd un ym mhob dau person ar draws Cymru yn cael diagnosis o ganser rhywbryd yn eu bywyd. Bob wythnos, mae dros 60 person o Geredigion, de Gwynedd a gogledd Powys yn cael triniaeth gwrth-ganser hanfodol yn Ysbyty Bronglais.  

Mae gofal o safon uchel yn cael ei ddarparu yn yr uned bresennol. Fodd bynnag, nid oess amgylchedd ffisegol yr uned wedi’i gynllunio’n wreiddiol ar gyfer darparu triniaeth gwrth-ganser fodern.

Diolch i haelioni ein cymunedau lleol, rydym eisoes wedi sicrhau £1.7m o’r £2.2m sydd ei angen i adeiladu uned cemotherapi newydd ym Mronglais.

Nawr, mae angen eich help arnom i godi’r £500,000 sy’n weddill. Bydd hyn yn ein galluogi i drawsnewid yr uned bresennol i fod yn gyfleuster modern sy’n addas ar gyfer y dyfodol a fydd yn gwella profiad y claf yn sylweddol.

Nodyn: Wedi i Apêl Cemo Bronglais gyrraedd y targed o £500,000 bydd unrhyw arian dros ben yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r rhai hynny a effeithir gan ganser ar draws Ceredigion.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: