Neidio i'r prif gynnwy

Dod yn godwr arian

Beth am godi arian ac ymuno â nifer cynyddol o gefnogwyr sy’n dewis wynebu heriau o bob math i godi aian tuag at Apêl Cemo Bronglais?

Mae cannoedd o ffyrdd o godi arian. Gallech gymryd rhan mewn ras rhedeg neu seiclo noddedig, gwerthu cacennau yn y gwaith, neu drefnu digwyddiad codi arian penblwydd ar Facebook… mae’r posibiliadau’n ddi-ddiwedd!

Am argymhellion a syniadau codi arian, trowch at ein Pecyn Codi Arian Rhithiol drwy clicio'r ddolen isod.

Gellir sefydlu tudalennau codi arian ar-lein trwy tudalen we yr apêl (agor mewn dolen newydd). Fel arall, gellir darparu ffurflenni noddi papur a blychau a bwcedi casglu i gefnogwyr ar gais.

Cysylltwch â’r Tîm Codi Arian am fwy o wybodaeth – neu i drafod unrhyw syniadau!

Ebostiwch: bronglaischemoappeal.hdd@wales.nhs.uk
Ffoniwch: 01970 613 881

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: