Os yw eich atgyfeiriad yn briodol, byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn i drefnu apwyntiad (a fydd ar fore dydd Mercher). Byddwn yn ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych. Mae eich apwyntiad yn debygol o fod ar fyr rybudd gan ein bod yn anelu at weld cleifion o fewn wythnos i gael eu cyfeirio gan y Meddyg Teulu.
Bydd eich meddyg teulu wedi trefnu profion gwaed cyn i chi fynychu a byddwn yn ddiolchgar am eich cymorth i fynychu er mwyn i'r rhain gael eu cynnal.
Os na fyddwch yn clywed gennym o fewn saith diwrnod i gael eich atgyfeirio gan eich Meddyg Teulu, mae croeso i chi ffonio’r tîm ar: 01269 820328