Neidio i'r prif gynnwy

Rwy'n oedolyn awtistig - beth fydd hyn yn ei olygu i mi?

Yn achos oedolion sy'n profi anawsterau iechyd meddwl cymedrol i ddifrifol, darperir y diagnosis hwn gan wasanaeth Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig (ASD) sydd bellach yn gweithio ochr yn ochr â'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig ac sy'n rhannu'r un ffurflen atgyfeirio. Dyrennir achosion naill ai i'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig neu'r ASD ar adeg yr atgyfeiriad. Mae rhagor o wybodaeth ar gael isod.

Er mwyn cael cymorth uniongyrchol trwy Wasanaeth Awtistiaeth Integredig Gorllewin Cymru, ni ddylai unigolyn fod yn cael unrhyw gymorth gan wasanaethau statudol eraill. Pan fydd unigolyn eisoes yn cael cymorth trwy wasanaethau statudol, mae Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gorllewin Cymru yn gallu cynnig cymorth anuniongyrchol ar ffurf gwasanaeth ymgynghori neu waith gydag asiantaethau cysylltiedig eraill.

Os ydych chi'n oedolyn ac yn meddwl bod gennych awtistiaeth ond nad oes gennych ddiagnosis, bydd y gwasanaeth yn gallu cynnig asesiad diagnostig i chi os ydych chi ei eisiau. Byddwch yn gallu cael cyngor a chefnogaeth gan y gwasanaeth heb fod angen i rywun arall eich cyfeirio. Isod mae rhai o'r heriau y gallai fod angen cyngor a chefnogaeth arnoch chi ar:

  •  
  • Asesiad a diagnosis posibl o Awtistiaeth
  • Cymorth i gyrchu neu gynnal addysg neu gyflogaeth
  • Cymorth i reoli anawsterau iechyd meddwl, megis gorbryder neu iselder, ochr yn ochr â diagnosis o awtistiaeth
  • Cymorth gyda chyfathrebu, perthnasoedd neu sgiliau rhyngbersonol
  • Dod o hyd i ragor o wybodaeth am awtistiaeth
  • Cwrdd â phobl eraill ag awtistiaeth
  • Cael cymorth i gynllunio gweithgareddau a chael mynediad at weithgareddau cymunedol
  • Asesiad o anawsterau synhwyraidd
  • Cymorth i gael mynediad at wasanaethau statudol ym meysydd iechyd, addysg, cyflogaeth neu dai.
Dilynwch ni ar:
Rhannwch: