Neidio i'r prif gynnwy

Cam Un – Hidlyddion eithrio

Man cychwyn ein proses adolygu yw dadansoddiad wythnosol o’r holl apiau sydd ar gael yn adrannau ‘iechyd, llesiant/ffitrwydd a meddygol’ App Store neu Google Play. Yna defnyddir hidlydd i eithrio apiau nas dyluniwyd i’w defnyddio mewn iaith a gefnogir ac apiau nas diweddarwyd ers 18 mis neu ragor. Caiff yr apiau sy’n weddill eu trefnu mewn 350 neu ragor o gategorïau o gyflyrau iechyd a gofal a’u gosod mewn ciw oddi mewn i’w categori gan ddechrau gyda’r rhai a lawrlwythwyd fwyaf.

Pan fydd fersiynau Android ac iOS o’r un ap, cânt eu cysylltu a’u gosod yn y ciw gyda’i gilydd. Byddwn yn adolygu’r ap a iawrlwythwyd fwyaf sydd nesaf yn y ciw, fesul categori, ar sail gylchol er mwyn sicrhau bod yr holl amrediad o atebion sydd ar gael yn cael sylw gennym. Rydym yn cynnig proses adolygu gyflym ar gyfer apiau sy’n annhebygol o gyrraedd blaen y ciw yn eu maes categori am beth amser – yn enwedig yn achos meysydd poblogaidd megis apiau iechyd meddwl, Diabetes, Asthma, COPD, Cwsg ac ati – ac mae hyn yn fodd i apiau mwy newydd gael sgôr gan ORCHA a lle ar ein llwyfannau heb orfod aros i nifer mwy o ddefnyddwyr eu lawrlwytho nac aros i’r tîm adolygu symud yn ddigon pell trwy’r ciw i roi sylw iddynt.

 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: