Neidio i'r prif gynnwy

Pwy sy'n cynnal eich adolygiadau?

Mae’r adolygwyr sy’n cael eu recriwtio a’u hyfforddi gan ORCHA yn dod o amrywiaeth eang o gefndiroedd a rolau. Ni fyddant yn arbenigwyr mewn unrhyw faes penodol o asesu apiau ond buan iawn y dônt i arbenigo mewn holi apiau i ateb y cwestiynau a bennir gan ein tîm datblygu’r adolygiad sydd i gyd yn arbenigwyr yn y meysydd clinigol, technegol, rheoleiddiol, dylunio a phrofiad defnyddwyr perthnasol.

Tîm datblygu’r adolygiad sy’n gyfrifol am y cwestiynau y mae ein hadolygwyr yn ceisio eu hateb. Darparant ddisgrifiad clir iawn o’r dystiolaeth y mae angen i’r adolygwyr gael hyd iddi er mwyn ateb cwestiwn yn gadarnhaol ac maen nhw hefyd yn pennu canlyniadau’r ateb i bob cwestiwn o ran dyfarnu’r pwyntiau positif a negatif sy’n gyrru’r broses sgorio.

Caiff ein hadolygwyr eu tywys trwy bob adolygiad gan ein hofferyn adolygu ar-lein sy’n sicrhau bod yr holl gwestiynau perthnasol yn cael eu harchwilio. Os daw ein hadolygwyr ar draws sefyllfaoedd nad yw tîm datblygu’r adolygiad wedi’u nodi’n benodol, byddant yn eu cyfeirio’n ôl at yr aelod perthnasol o dîm datblygu’r adolygiad i ofyn am arweiniad.

Mae’r cyfuniad hwn o adolygwyr ymroddedig tra hyfforddedig a’n grŵp ehangach o arbenigwyr yn nhîm datblygu’r adolygiad yn golygu y gallwn adolygu nifer mawr o apiau mewn modd amserol a chosteffeithiol.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dod yn un o adolygwyr ORCHA, cysylltwch â ni hello@orcha.co.uk.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: