Neidio i'r prif gynnwy

Sut yr ydych yn asesu'n uniongyrchol a yw ap yn gweithio neu beidio?

Nid yw ein hadolygiad yn cynnal profion ar yr holl honiadau y gallai datblygwr ap eu gwneud am yr hyn y gall neu y gallai’r ap ei wneud. Yn achos rhai apiau, ni fyddai hon yn dasg arbennig o feichus, ond i eraill, gallai olygu llawer iawn o brofion a threialon i ddilysu pob agwedd ar ddiogelwch ac effeithiolrwydd.

Mae’n bosibl y bydd rhai apiau, sy’n dod o dan ddiffiniad dyfeisiau meddygol, yn gwneud hyn fel rhan o dderbyn tystysgrif dyfais feddygol, lle bydd angen iddynt, yn dibynnu ar eu dosbarthiad, roi tystiolaeth i’r corff a hysbyswyd fod yr ap yn cydymffurfio â’r safonau a bennwyd.

Nod ein hadolygiadau ni yw cynnig asesiad cyflym o lefelau cyffredinol cydymffurfiaeth apiau â’r rheoliadau, y safonau a’r arferion gorau er mwyn cynnig barn brocsi ynghylch a ydynt yn bethau i ymgysylltu â nhw neu beidio. Gwelir bod lefelau cydymffurfiaeth uchel yn tueddu i fod yn arwydd o ansawdd uwch y cynnyrch gorffenedig, ac fel arall.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: