Neidio i'r prif gynnwy

Elfennau newydd yn fersiwn 6 o offeryn adolygu ORCHA

Fersiwn 6 o’r Adolygiad Sylfaenol (ORCHA Baseline Review (OBR)) yw ein gwerthusiad mwyaf datblygedig a chynhwysfawr hyd yma. Hwn yw chweched iteriad OBR ers ei lansio gyntaf yn 2015. Ym mhob iteriad, ychwanegwyd rhagor o feini prawf gwerthuso at yr adolygiad.

Adeiladwyd ar Fersiwn 5 o OBR i gynnwys categoreiddio apiau mewn modd mwy helaeth a soffistigedig. Cofnodir mwy o ddata ynghylch nodweddion yr apiau a’r defnydd o ddata. Cawsom ein hysbrydoli hefyd gan Fframwaith Safonau Tystiolaeth NICE i integreiddio “ORCHA ESF”, sy’n cynnwys ymgorffori dadansoddiad helaethach o’r dystiolaeth a ddarperir i gefnogi sicrwydd clinigol yr ap.

Mae’r newidiadau hyn wedi ychwanegu at ein hadolygiad er mwyn sicrhau ei fod yn gadarn ac i’n helpu ni i werthuso atebion iechyd digidol mewn modd cyfrifol.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: