Neidio i'r prif gynnwy

A yw'r adolygiad yn ystyried dadansoddiadau eraill sy'n datgelu problemau neu bryderon ynghylch yr ap?

Nid yw’n ymarferol i’n hadolygiad fonitro pob dadansoddiad arall o Ap ar yr holl gyfryngau. Rhaid i’n hadolygiad ddibynnu ar bwyntiau data cadarn a hawdd eu hadnabod, er mwyn sicrhau ei fod yn gyfiawn ac yn deg â phawb.

Os caiff pryderon am ap eu codi’n gyhoeddus, nid yw’n amlwg o reidrwydd fod y rhain yn deg ac maen nhw’n aml yn ymwneud ag agweddau o ap sy’n dod o dan oruchwyliaeth reoleiddiol cyrff perthnasol megis yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA), y Comisiynydd Gwybodaeth neu’r Comisiwn Ansawdd Gofal (CQC).

Nid lle ORCHA yw ffurfio barn, ac adlewyrchu’r farn honno yn ein sgôr, cyn ymchwiliad priodol gan yr awdurdodau hyn.

Os bydd ORCHA yn amlygu materion neu bryderon trwy ein hadolygiad, megis diffyg marc CE neu faterion sy’n ymwneud â chydymffurfiaeth â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), byddwn yn rhoi hysbysiadau priodol i’r datblygwr perthnasol cyn defnyddio’r prosesau perthnasol i hysbysu’r cyrff hynny am y pryderon hyn.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: