Bydd y Bwrdd Iechyd yn gweithredu yn unol â Rheoliadau Rhyddid Gwybodaeth (Terfynau a Ffioedd Priodol) 2004.
Bydd y rhain yn pennu terfynau priodol ar daliadau a ffioedd, sut y gellir eu cyfrifo ac o dan ba amgylchiadau na ddylid codi ffi. Mewn amgylchiadau eithriadol, gall y Bwrdd Iechyd, yn ôl ei ddisgresiwn ei hun, hepgor unrhyw ffioedd cymwys.
Gellir cymryd y gweithgareddau canlynol i ystyriaeth wrth amcangyfrif cost cydymffurfio, a gyfrifir yn £25 yr awr hyd at derfyn o £450 (18 awr o amser staff):
Gellir codi tâl am unrhyw gais o dan y Rheoliadau. Fodd bynnag, rhaid i unrhyw dâl fod yn rhesymol ac ystyried nod y Rheoliadau, sef annog mynediad syml at wybodaeth amgylcheddol. Bydd y Bwrdd Iechyd yn defnyddio ei ddisgresiwn o ran pryd i godi tâl, a bydd y penderfyniad terfynol ar hyn yn cael ei wneud gan y Swyddog Rhyddid Gwybodaeth.