Daeth Rheoliadau Ailddefnyddio Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus i rym ar 1 Gorffennaf 2005. Amcan y Rheoliadau yw annog y diwydiant gwybodaeth electronig drwy sicrhau bod gwybodaeth a gedwir gan gyrff cyhoeddus ar gael i'w hailddefnyddio.
Mae’r deunydd sydd ar gael trwy Gynllun Cyhoeddi'r Bwrdd Iechyd yn amodol ar hawlfraint Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda oni nodir yn wahanol. Oni nodir yn wahanol yn benodol, gellir ei atgynhyrchu’n rhad ac am ddim, mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, o dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored (OGL). Gellir gweld y drwydded hon ar wefan Yr Archifau Cenedlaethol neu gallwch ysgrifennu at: Information Policy Team, The National Archives, Kew, London TW9 4DU, neu
e-bostiwch: psi@nationalarchives.gsi.gov.uk.
Mae defnyddio gwybodaeth a wneir yn benodol o dan y drwydded hon yn dangos eich bod yn derbyn y telerau ac amodau a nodir yn yr OGL. Pan fyddwch yn defnyddio ein gwybodaeth o dan yr OGL, dylech gynnwys y priodoliad canlynol:
[rhowch enw'r adnodd gwybodaeth, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Hywel Dda, dyddiad cyhoeddi], wedi'i drwyddedu o dan y Drwydded Llywodraeth Agored http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/2/.
Nid yw caniatâd i atgynhyrchu deunydd yn ymestyn i unrhyw ddeunydd a gyrchir trwy'r wefan hon sy'n hawlfraint trydydd parti. Rhaid i chi gael awdurdod i atgynhyrchu deunydd o'r fath gan ddeiliaid yr hawlfraint dan sylw.
Cais i ailddefnyddio gwybodaeth
Os dymunwch ailddefnyddio’r wybodaeth a ddarparwyd, dylai ymgeiswyr:
Rhaid gwneud ceisiadau i:
Y Swyddog Rhyddid Gwybodaeth, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Swyddfeydd Corfforaethol, Adeilad Ystwyth, Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, SA31 3BB
Rhif ffôn: 01267 239730
E-bost: FOI.HywelDda@wales.nhs.uk
Yn unol â'r Rheoliadau, byddwn yn anelu at ymateb i bob cais o fewn 20 diwrnod gwaith.
Cwynion
Os ydych yn credu bod y BIP wedi methu â chydymffurfio â gofynion y Rheoliadau, yna gallwch gwyno, yn y lle cyntaf, i’r Bwrdd Iechyd yn unol â’n Gweithdrefn Gwynion Fewnol, drwy ysgrifennu at:
Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Swyddfeydd Corfforaethol, Adeilad Ystwyth, Hafan Derwen, Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, SA31 3BB
E-bost: Sharon.Daniel5@wales.nhs.uk
Os yw’r ymgeisydd yn parhau i fod yn anhapus â dilyn ein trefn gwyno fewnol, yna mae ganddo hawl i gyfeirio ei gŵyn at Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus, sy’n rhan o’r Archifau Cenedlaethol yn y cyfeiriad canlynol:
Office of Public Sector Information, The National Archives, Kew, Richmond, Surrey, TW9 4DU
E-bost: standards@nationalarchives.gsi.gov.uk
Rhif ffôn: +44 (0)20 8876 3444