Neidio i'r prif gynnwy

Fforwm Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol

Mae’r Fforwm Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol (HPF) wedi’i sefydlu fel Grŵp Ymgynghorol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (y Bwrdd Iechyd) ac fe’i sefydlwyd ym mis Rhagfyr 2010.

Fel Grŵp Ymgynghorol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, pwrpas y Fforwm Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol (y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel “y Fforwm”), yw rhoi cyngor i'r Bwrdd ar yr holl faterion proffesiynol a chlinigol y mae'n eu hystyried yn briodol. Nid yw ei rôl yn cynnwys ystyried telerau ac amodau gwasanaeth proffesiynol.

Fel Grŵp Ymgynghorol i’r Bwrdd, rôl y Fforwm yw:

  •  darparu golwg gytbwys, amlddisgyblaethol o faterion proffesiynol i gynghori'r Bwrdd ar strategaeth a darpariaeth leol.
  • hwyluso ymgysylltu a trafodaeth ymhlith yr ystod eang o ddiddordebau clinigol o fewn maes gweithgaredd y Bwrdd Iechyd, gyda’r nod o gyrraedd a chyflwyno persbectif proffesiynol cydlynol a chytbwys i lywio penderfyniadau’r Bwrdd Iechyd; a
  • cysylltu â strwythurau ymgysylltu clinigol mewnol presennol.

Gall y Bwrdd Iechyd ofyn yn benodol am gyngor ac adborth gan y Fforwm ar unrhyw agwedd ar ei fusnes, a gall y Fforwm hefyd gynnig cyngor ac adborth hyd yn oed os na fydd y Bwrdd Iechyd yn gwneud cais penodol amdano.

Gall y Fforwm roi cyngor i’r Bwrdd:

  • yng nghyfarfodydd y Bwrdd, drwy gyfraniad Cadeirydd y Fforwm fel Aelod Cyswllt;
  • mewn cyngor ysgrifenedig; a
  • mewn unrhyw ffurf arall a bennir gan y Bwrdd.

Manylir ar rôl lawn y Fforwm Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol yng Nghylch Gorchwyl HPF (PDF, 221KB, 17 Mawrth 2022, agor mewn dolen newydd).

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: