Neidio i'r prif gynnwy

Fforwm Partneriaeth Staff

Mae’r Fforwm Partneriaeth Staff (SPF) wedi’i sefydlu fel Pwyllgor Ymgynghorol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac fe’i sefydlwyd 1 Hydref 2009.

• Y SPF yw’r mecanwaith ffurfiol lle mae cyflogwyr ac Undebau Llafur GIG Cymru, a chyrff proffesiynol (y cyfeirir atynt o hyn ymlaen fel Undebau Llafur) yn cydweithio i wella gwasanaethau iechyd i bobl Cymru. Dyma’r fforwm lle bydd rhanddeiliaid allweddol yn ymgysylltu â’i gilydd i hysbysu, dadlau a cheisio cytuno ar flaenoriaethau lleol ar faterion yn ymwneud â’r gweithlu a’r gwasanaeth iechyd.

• Cyn gynted â phosibl, bydd y Bwrdd yn ymgysylltu â'r Undebau Llafur yn y trafodaethau allweddol ym Mwrdd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, SPF a Fforymau Partneriaeth Sirol (CPF).

Bydd y SPF yn darparu mecanwaith ffurfiol ar gyfer ymgynghori, negodi a chyfathrebu rhwng yr Undebau Llafur a rheolwyr. Bydd egwyddorion partneriaeth y TUC yn berthnasol:-

  • ymrwymiad ar y cyd i lwyddiant y sefydliad
  • ffocws ar ansawdd bywyd gwaith
  • cydnabyddiaeth o rolau cyfreithlon y cyflogwr a'r undeb llafur
  • ymrwymiad gan y cyflogwr i sicrwydd cyflogaeth
  • bod yn agored ar y ddwy ochr a pharodrwydd y cyflogwr i rannu gwybodaeth a thrafod cynlluniau'r sefydliad ar gyfer y dyfodol
  • ychwanegu gwerth – cyd-ddealltwriaeth bod y bartneriaeth yn cyflawni gwelliannau mesuradwy i'r cyflogwr, yr undeb a'r gweithwyr

 

Manylir ar rôl lawn y Fforwm Partneriaeth Staff yng Ngylch Gorchwyl y SPF (PDF, 282KB, 17 Mawrth 2022, agor mewn dolen newydd).

 

 

 

 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: