Neidio i'r prif gynnwy

Grwpiau Ymgynghorol

Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIHDd) ddyletswydd statudol i ystyried sylwadau a wneir gan bersonau sy’n cynrychioli buddiannau’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu, ei swyddogion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Er mwyn helpu i gyflawni'r ddyletswydd hon, mae'r Bwrdd wedi penodi Grwpiau Ymgynghorol i roi cyngor i'r Bwrdd wrth iddo gyflawni ei swyddogaethau.

Mae Grwpiau Ymgynghorol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynnwys Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid, Fforwm Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol a Fforwm Partneriaeth Staff. Mae ymrwymiad y Bwrdd i fod yn agored ac yn dryloyw wrth gynnal ei holl fusnes yn ymestyn i’r un graddau i’r gwaith a wneir gan eraill i’w gynghori wrth gynnal ei fusnes.

Bydd y Bwrdd yn sicrhau bod Cadeiryddion yr holl Grwpiau Ymgynghorol yn adrodd yn ffurfiol, yn rheolaidd ac yn amserol i'r Bwrdd ar eu gweithgareddau. Mae Cadeiryddion y Grwpiau Ymgynghorol yn Aelodau Cyswllt o’r Bwrdd ac yn dwyn i sylw penodol y Bwrdd unrhywfaterion o bwys sy’n cael eu hystyried ac yn adrodd ar ei holl weithgareddau trwy gynhyrchu adroddiad diweddaru neu adroddiadau ysgrifenedig eraill.

Mae aelodaeth a chylch gorchwyl y Grwpiau Ymgynghorol ar gael isod.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: