Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad o fwriad

Darparu Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig i Bobl Hŷn ag Anghenion Cymhleth

Cyhoeddwyd Fframwaith ar gyfer Cyflawni Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Bobl Hŷn ag Anghenion Cymhleth  Llywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2014 ac mae’n darparu glasbrint cenedlaethol ar gyfer datblygu a chyflenwi gwasanaethau sydd â’r nod o sicrhau bod gan yr henoed sy'n eiddil yng Nghymru lais cryf a rheolaeth dros eu gofal a’u cymorth, bod atal a lles wrth wraidd y gwasanaethau hynny a bod darpariaeth yn cael ei gydgysylltu ar draws asiantaethau er mwyn cael canlyniadau sy'n bwysig i bobl a'u gofalwyr.

Fel ym mhob cwr o Gymru, roedd gofyn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a’i awdurdodau partner gynhyrchu Datganiadau o Fwriad i asesu’r trefniadau presennol yn erbyn y safonau a bennir yn y Fframwaith a datgan ein hymrwymiadau ar gyfer symud ymlaen ag integreiddio ymhellach yn y cyfnod nesaf. Mae Datganiad wedi’i gadarnhau gan yr holl bartneriaid a defnyddir hwn i gynllunio gweithgareddau a monitro ein cynnydd wrth i ni gydweithio i gyflawni ein hymrwymiadau a gwella canlyniadau i bobl yn ein hardal ni. Byddwn yn cyhoeddi ein cynnydd diweddaraf yn rheolaidd wrth i ni fynd ar y daith hon. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Martyn Palfreman, Rheolwr y Rhaglen Rhanbarthol ar gyfer Cydweithio Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y Canolbarth a’r Gorllewin MJPalfreman@carmarthenshire.gov.uk

Lawrlwythwch gopi o datganiad o Fwriad – Darparu Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig i Bobl Hŷn ag Anghenion Cymhleth yma (PDF, 383KB)

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: