Neidio i'r prif gynnwy

Fframwaith strategol cyntaf ar wella ansawdd

Mae ein Fframwaith Strategol cyntaf ar Wella Ansawdd yn gosod ein hymagwedd o wella’r gwasanaethau a’r gofal a ddarparwn, a hynny’n barhaus. Gwerthfawrogwn ein staff a’r gwaith maen nhw’n ei wneud. Rydym am greu diwylliant lle mae gwella ansawdd yn barhaus wrth wraidd ein holl wasanaethau. Rydym am un staff, ar bob lefel ac ym mhob swydd, i deimlo’n gymwys, wedi’u grymuso, yn ddiogel ac wedi’u cefnogi i adnabod y newidiadau a fydd yn gwella profiadau a chanlyniadau gofal cleifion, a’u gweithredu.

Cyfrifoldeb pawb yw hyrwyddo, annog a chefnogi gwelliannau parhaus a bydd hyn yn sicrhau ein bod yn cynnal gwasanaethau o safon uchel ac yn gwneud BIP Hywel Dda yn le deniadol a gwerthfawr i weithio a gofalu.

Rydym yn manylu ar sut y byddwn yn gwneud hyn yn y fframwaith ac edrychwn ymlaen at eich diweddaru yn adroddiad y flwyddyn nesaf. Cofiwch ein dilyn ar Twitter yn @EQIiP_HywelDda

‘Mae gan bawb ym maes gofal iechyd ddwy swydd bob dydd: i wneud eu swydd, a’i gwella.' (Batalden a Davidoff 2007)

Cliciwch yma i weld y fframwaith strategol cyntaf ar wella ansawdd (PDF, 2,060KB) - (Saesneg yn unig)

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: