Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad Cyhoeddus o Gyfarfod Cyhoeddus y Bwrdd 26 Mawrth 2020

Bydd cyfarfod y Bwrdd Iechyd Prifysgol yn cael ei gynnal Ddydd Iau 26 Mawrth 2020 am 9:30am Siambrau Cyngor Sir Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron, Ceredigion SA46 0PA Mae croeso i aelodau o’r cyhoedd fynychu. I sicrhau bod digon o ddarpariaeth ar gael, a fyddech cystal â rhoi gwybod i Ysgrifenyddes y Bwrdd yn y cyfeiriad isod. Bydd copïau electronig ar gael i’w lawrlwytho o wefan y Bwrdd Iechyd 5 diwrnod cyn y cyfarfod drwy ddilyn y ddolen:

Cyfarfodydd y bwrdd 2020

Noder: bydd y cyfarfod hwn hefyd yn cael ei ddarlledu’n fyw ar y we a gellir ei weld am 9.30 ar ddiwrnod y cyfarfod. Os oes aelod o’r cyhoedd yn dymuno codi mater i’w drafod yng nghyfarfod y Bwrdd ynghylch eitem ar yr agenda, gwnewch gais ysgrifenedig i’r Cadeirydd Miss Maria Battle, yn y cyfeiriad isod (neu mewn ebost i Ysgrifennydd Y Bwrdd) o leiaf tri ddiwrnod gwaith cyn y cyfarfod – mae ffurflen gwestiwn ar gael ar y wefan drwy’r ddolen ganlynol:

Dyddiadau a phapurau cyfarfodydd y bwrdd

Mae BIP yn croesawu gohebiaeth ac ymholiadau yn Gymraeg a Saesneg. Noder bod y cyfarfod yn cael ei gynnal yn gyhoeddus, ond nid yw’n gyfarfod cyhoeddus, felly nid oes modd i aelodau o’r cyhoedd gyfrannu at y drafodaeth.

Mae’r agenda a’r papurau ategol ar gael mewn fformat gwahanol os oes angen (e.e. print mawr) trwy gysylltu ag Ysgrifennydd y Bwrdd:

Cyfeiriad: Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Swyddfeydd Corfforaethol, Adeilad Ystwyth, Parc Dewi Sant, Caerfyrddin SA31 3BB
Ebost: Joanne.L.Wilson@wales.nhs.uk
Rhif Ffôn: 01267 239644

Maria Battle, Cadeirydd
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: