Neidio i'r prif gynnwy
Andrew Carruthers - Cyfarwyddwr Gweithrediadau
Andrew Carruthers

Cyfarwyddwr Gweithrediadau

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Swyddfeydd Corfforaethol, Adeilad Ystwyth, Hafan Derwen, Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin, SA31 3BB

01267 235151

andrew.carruthers2@wales.nhs.uk

Amdanaf i

Cyfarwyddwr Gweithrediadau

Ym mis Mehefin 2017, ymunais â'r bwrdd iechyd fel y cyfarwyddwr trawsnewid  ac rwyf wedi mwynhau blynyddoedd lawer yn gweithio o fewn y GIG.

Rwyf wedi arwain y gwaith ar draws y sefydliad i sbarduno gwelliannau wrth gyflawni cynlluniau gwella costau’r bwrdd iechyd, gan sicrhau ar yr un pryd bod ffocws o hyd ar fuddion i ofal a phrofiad cleifion, ynghyd â gwell perfformiad.

Trwy gydol fy ngyrfa, rwyf wedi ennill cyfoeth o wybodaeth a phrofiad, sydd wedi cynnwys ystod o rolau rheoli perfformiad a chynllunio, amryw o rolau rheoli gweithredol yng Nghymru a Lloegr a rôl genedlaethol yn goruchwylio datblygu cynlluniau ad-drefnu gwasanaethau ar draws y GIG yng Nghymru.
Yng Ngrŵp Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, rwyf hefyd wedi dal rôl cyfarwyddwr rhaglenni cyflenwi, lle roeddwn yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth perfformiad saith bwrdd iechyd a thair ymddiriedolaeth GIG, yn ogystal â datblygu polisi cenedlaethol ar ofal heb ei drefnu, gofal wedi'i gynllunio, rheoli perfformiad a chynllunio GIG Cymru.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: