Neidio i'r prif gynnwy

Drwy symud adrannau Damweiniau ac Achosion Brys sydd wedi'u lleoli ar hyn o bryd yn Ysbytai Glangwili a Llwynhelyg i Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi'i Gynllunio newydd, rydych chi'n cymryd yr 'awr aur' oddi wrth bobl – sut gall hyn fod yn ddiogel?

Cafodd cynigion y bwrdd iechyd ar gyfer yr ysbyty newydd eu mapio i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth brys sydd mor agos â phosibl at fod o fewn awr i’r rhan fwyaf o boblogaethau ein hardal.

Bydd angen i unrhyw lwybr y byddwn yn ei roi ar waith, gan gynnwys trosglwyddo’n ddiogel i ysbyty priodol, fod yn ddiogel i’n poblogaeth. Mae ein rhaglen drawsnewid wedi’i harwain yn glinigol, yn benodol i sicrhau bod yr hyn yr ydym yn ei gynnig yn ddiogel i’n cleifion.

Nid yw’r term ‘awr aur’ yn 60 munud syml – mae uchafswm amseroedd teithio presennol yn amrywio yn dibynnu ar eich cyflwr. Mae ymateb brys yn dechrau pan ddaw'r alwad i ganolfan gyswllt clinigol Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a'r criw brys yn cyrraedd. Mae parafeddygon wedi'u hyfforddi'n dda ac yn aml gallant ddarparu'r gofal sydd ei angen ar unwaith i ganiatáu'r amser teithio ychwanegol i gleifion gael eu trin yn yr ysbyty mwyaf priodol. Byddai rhai achosion brys hefyd yn gweld ymateb clinigwyr, gan gynnwys meddygon ymgynghorol, yn y fan a’r lle gan y Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru).

Rydym yn parhau i weld datblygiadau yn y ddarpariaeth gan y gwasanaethau brys yng Nghymru megis ymestyn Ambiwlans Awyr Cymru i wasanaeth 24/7 ers mis Gorffennaf 2020. 

Drwy wneud gwelliannau i’n heriau staffio a diogelwch ein gwasanaethau arbenigol, drwy’r Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd, bydd gennym hefyd feddygon uwch, arbenigol ar gael wrth y drws ffrynt fel bod gennych fynediad cyflym atynt, a’r holl wasanaethau cymorth sydd ei angen ar gyfer eich gofal.

Drwy wahanu gofal wedi’i gynllunio a gofal brys, fel y bwriadwn ei wneud yn yr ysbyty newydd, byddwn hefyd yn osgoi’r risg y bydd gweithgarwch brys yn effeithio’n negyddol ar ofal wedi’i gynllunio, drwy lawdriniaethau wedi’u canslo.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: